Y Grŵp Trawsbleidiol ar Hawliau Dynol

13 Mawrth 2024, dros Zoom, 10:00 – 11:00

 

Cofnodion

Yn bresennol:

 

·         Sioned Williams AS (Cadeirydd)

·         Yr Athro Simon Hoffman (Ysgrifenyddiaeth)

·         Dr Victoria Winckler (Sefydliad Bevan, Siaradwr)

·         Altaf Hussain AS

 

Roedd pobl â diddordeb hefyd yn bresennol yn y cyfarfod. Mae'r Grŵp Trawsbleidiol yn agored i bobl a sefydliadau sydd â diddordeb. Gan fod y cyfarfod wedi cael ei gynnal dros Zoom, gyda nifer fawr o bobl yn dewis ymuno (20+), nid oedd modd cadw cofnod o'r holl bobl a oedd yn bresennol.

 

Eithriadau:

·         Swyddogion.

·         Siaradwyr.

·         Aelodau o’r Senedd.

·         Unrhyw un sy'n gwneud cais penodol i nodi ei enw neu sefydliad.

 

 

Materion yn codi o'r cyfarfod blaenorol (Hydref 2023)

Cadarnhaodd y Cadeirydd y byddai’n drafftio, ac yn anfon, llythyr at Is-gangellorion prifysgolion Cymru, yn unol â’r hyn y cytunwyd arno yn y cyfarfod blaenorol. (Cam gweithredu: SW)

 

Cyflwyniad

Cafodd y Grŵp gyflwyniad ar dlodi a chyllideb Llywodraeth Cymru gan Dr Victoria Winckler, Cyfarwyddwr Sefydliad Bevan. Dechreuodd Dr Winckler ei chyflwyniad drwy gyfeirio at ddata sy’n cadarnhau bod tlodi yn broblem gronig a chyrydol yng Nghymru. Roedd y canlynol ymhlith y prif benawdau: mae 21 y cant o bobl yn byw mewn tlodi yng Nghymru; mae cynnydd wedi bod yn nifer y bobl sy’n byw mewn tlodi er bod ganddynt waith; mae 56 y cant o bobl ddi-waith yn byw mewn tlodi; mae amddifadedd wedi cynyddu; prif achosion tlodi yw dewisiadau polisi mewn perthynas â'r system economaidd a’r system gymdeithasol. Yn ôl Dr Winckler, er nad yw llawer o’r ysgogiadau polisi sy'n dylanwadu ar dlodi wedi'u datganoli (er enghraifft, lles a threthiant), nid yw hyn yn golygu nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw ddylanwad dros bolisïau sy'n effeithio ar dlodi yng Nghymru. Er enghraifft, mae gan Lywodraeth Cymru reolaeth dros y meysydd a ganlyn: tai, gofal plant, grantiau datganoledig ac agweddau ar yr economi a’r farchnad lafur. Wrth wneud sylwadau ar gyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024/25, nododd Dr Winckler fod cyfanswm o £23 biliwn ynghlwm wrth y cyfrifoldebau hyn, gydag £11 biliwn o’r swm dan sylw yn cael ei ddyrannu i iechyd a £5.9 biliwn yn cael ei ddyrannu i lywodraeth leol. Gellir defnyddio gweddill yr arian ar gyfer costau eraill, fel hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol. Dywedodd Dr Winckler y bu rhai addasiadau cadarnhaol rhwng y gyllideb ddrafft a’r gyllideb derfynol, gan gynnwys cynnydd – a rhywfaint o adfer – yn y cyllid sydd ar gael ar gyfer meysydd sy’n debygol o gael effaith ar y rhai sy’n byw mewn tlodi. Fodd bynnag, yn gyffredinol, nid yw’r gyllideb yn gyllideb ar gyfer lleihau tlodi, ac mae gwasgfa yn wynebu llawer o feysydd.  Dywedodd Dr Winckler fod y rhagolygon yn parhau i fod yn heriol, gan fod torri trethi yn flaenoriaeth i brif bleidiau gwleidyddol y DU o hyd. O ganlyniad, bydd y refeniw i gefnogi rhaglenni cymdeithasol yn is, ac rydym yn wynebu’r gwaddol sy’n deillio o ddegawd o danfuddsoddi, a’r ffaith bod nifer o’r gwasanaethau allweddol sy’n effeithio ar bobl mewn tlodi bellach y tu allan i reolaeth y cyhoedd.   

Diolchodd y Cadeirydd i Dr Winckler am ei chyflwyniad, a oedd yn llawn gwybodaeth. Cafwyd sylwadau a chwestiynau gan sawl cyfranogwr, a chafwyd trafodaeth gadarn yn dilyn y cyflwyniad.

Yn ystod y drafodaeth, mynegwyd diddordeb yn y broses o ddatblygu dealltwriaeth gyffredin ynghylch yr hyn y dylai Cymru ei ragweld fel ‘safon ofynnol’ ar gyfer darparu gwasanaethau cyhoeddus allweddol, a hynny er mwyn diwallu anghenion sylfaenol. Cyfeiriwyd at y cysyniad o ‘hawl craidd gofynnol’, sy’n berthnasol i hawliau megis yr hawl i safon byw ddigonol, a geir mewn cyfraith ryngwladol ar hawliau dynol. Cytunwyd y byddai’r Cadeirydd yn ysgrifennu at y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol er mwyn mynegi pryder ynghylch lefelau tlodi yng Nghymru, ac er mwyn gofyn a fyddai modd cymryd camau gweithredu, ar y cyd â chymdeithas sifil, i ddatblygu dealltwriaeth o’r hyn y gallai cymunedau yng Nghymru ei ragweld fel lefel ofynnol o ddarpariaeth i sicrhau bywyd gwaraidd i bawb yng Nghymru. (Cam gweithredu: SW

 

Adroddiad gan y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru

Gohiriwyd yr eitem hon tan y cyfarfod nesaf yn sgil diffyg amser.

 

Unrhyw fater arall

Cyfeiriodd Elinor Mattey (Sefydliad Bevan) at adroddiad diweddar gan Sefydliad Bevan (Chwefror 2024), sef ‘What am I Supposed to Do? Living with No Recourse to Public Funds in the Nation of Sanctuary'. Un canfyddiad yn yr adroddiad yw nad yw awdurdodau lleol, mewn achosion lle rhoddir disgresiwn iddynt ddarparu cymorth i bobl nad oes ganddynt hawl i arian cyhoeddus, bob amser yn defnyddio’r disgresiwn hwnnw i ddarparu cymorth.

Cytunodd y grŵp y byddai’r Cadeirydd yn ysgrifennu at y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i ofyn iddi ddileu’r disgresiwn i gefnogi plant o aelwydydd nad oes ganddynt hawl i arian cyhoeddus, a hynny er mwyn sicrhau bod yn rhaid i awdurdodau lleol ddarparu cymorth ar gyfer prydau ysgol am ddim drwy gymhwyso meini prawf cymhwystra sy’n sicrhau hawl pobl drwy gyfeirio at eu hincwm isel. (Cam gweithredu: SW)